Mae dau ddyn o Gaerdydd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth dyn yn ardal Pentwyn yn y brifddinas.

Mae’r dynion, un yn 29 oed a’r llall yn 35 oed, yn cael eu cadw yn y ddalfa ar hyn o bryd, wrth i’r heddlu barhau â’u hymchwiliad.

Am tua 7 o’r gloch yr hwyr nos Sul, 12 Mehefin cafodd swyddogion eu galw i achos o drywanu posib yn ardal Bryn Bedw, lle daethon nhw hyd i ddyn oedd wedi’i anafu.

Er i barafeddygon a’r Ambiwlans Awyr geisio ei achub, bu farw’r dyn yn y fan a’r lle. Nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi ei enw yn swyddogol hyd yn hyn ac mae swyddogion cyswllt teulu yn cynnig cymorth i’w deulu.

Mae achos ei farwolaeth a’r amgylchiadau llawn yn parhau i gael eu hymchwilio, ac mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo’r Taclau yn anhysbys ar 0800 555 111, gan ddyfynnu’r rhif, *218368.