Gareth Tansey yn cael tynnu ei lun gyda Shane Williams, Llun: Huw Tomos-Griffiths
Mae llun o un o gefnogwyr pêl droed Cymru wedi lledu dros y we ar ôl iddo golli y rhan fwyaf o gêm gyntaf y tîm yn erbyn Slofacia – am ei fod yn cysgu.

Mae Gareth Tansey wedi dod yn adnabyddus ar gyfryngau cymdeithasol ar ôl cael tynnu ei lun, heb yn wybod iddo, gyda’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, Shane Williams, yn y Nouveau Stade de Bordeaux ddydd Sadwrn.

Mae’r cefnogwr 34 oed o Aberdaugleddau yn cyfaddef ei fod wedi yfed gormod o win coch a lager Ffrengig cyn y gêm fuddugol i Gymru ac wedi colli y rhan fwyaf ohoni.

Doedd hyd yn oed presenoldeb Shane Williams, a gododd ei ben am lun, ddim yn gallu ei ddeffro wrth i chwaraewyr a chefnogwyr floeddio’r anthem genedlaethol cyn y chwiban cyntaf.

“Cysgu’n sownd”

“Roeddwn i’n cysgu’n sownd. Doedd dim syniad gennyf i ’mod i wedi cael tynnu fy llun ag un o bencampwyr gorau Cymru,” meddai.

“Roeddwn i gwbl allan ohoni. Nes i ddim hyd yn oed clywed yr anthem genedlaethol yn cael ei chanu na’r dorf pan sgoriodd Gareth Bale ein gôl gyntaf.”

Roedd Gareth Tansey wedi mynd â’i ffrind Stephen Warr, 35, i Ffrainc, heb docynnau i wylio’r gemau ond fe lwyddodd y ddau i brynu dau am £80 yr un hanner awr cyn y gêm.

“Roeddem ni wedi bod allan y noson gynt yn yfed y lager Ffrengig yma, dwi’n meddwl ei fod tua 7.8%,” ychwanegodd Gareth Tansey.

“Roeddem yn ôl ar y cwrw ddydd Sadwrn, a phan lwyddon ni i gael tocyn, wnaethon ni yfed ychydig o win i ddathlu.”

Er iddo gysgu am y rhan fwyaf o’r gêm, fe ddeffrodd mewn pryd i ddal ail gôl Cymru gan Hal Robson Kanu, 10 munud cyn i’r gêm orffen, a wnaeth sicrhau buddugoliaeth o 2-1 i Gymru.

‘Cadw draw o’r alcohol’

Mae bellach yn ceisio dod o hyd i docynnau i ail gêm Cymru, yn erbyn Lloegr yn Lens, ddydd Iau.

“Y tro hwn, wnâi ddim mynd yn rhy bell gyda’r dathliadau. Fe wnâi gadw draw o’r alcohol yn gyfan gwbl a bod yno i weld y cyfan!” meddai.