Fe fydd gwylnos yn cael ei chynnal tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd heno i gofio am y bobol sydd wedi colli eu bywydau yn dilyn y gyflafan yn Orlando, Fflorida dros y penwythnos.

Mae’r digwyddiad coffa wedi’i drefnu gan ddau o sefydliadau elusennol sy’n cynrychioli pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) Cymru, sef Pride Cymru a Stonewall Cymru.

Cafodd 50 o bobol eu saethu’n farw gan ddyn arfog yng nghlwb nos ar gyfer pobol hoyw yn Orlando yn gynnar fore Sul.

Yn ôl adroddiadau, mae disgwyl i nifer y meirw godi ac mae’n cael ei ddisgrifio fel yr achos gwaethaf o’i fath yn hanes yr Unol Daleithiau.

‘Hollol dorcalonnus’

“Mae rhai yn gofyn yn aml pam rydyn ni dal angen Pride,” meddai Lousie Thomas, Cadeirydd Pride Cymru.

“Mae digwyddiadau trychinebus fel hyn yn y byd a gweithgarwch pellach o frawychiaeth a chasineb yn un o’r nifer o resymau pam fod safiad cadarnhaol fel Pride yn parhau’n bwysig,” ychwanegodd.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, fod y “newyddion o Orlando yn hollol dorcalonnus.

“Mae’n dangos nad yw newidiadau diweddar yn y gyfraith yn golygu fod y newid wedi’i gyflawni. Tra bo cymunedau LGBT ddim yn ddiogel nac yn rhydd i fod yn nhw eu hunain yn yr amgylchedd o droseddau homoffobig hyll yma, fe fyddwn ni’n dyblu ein hymdrechion i geisio llywio’r byd i fod yn un lle mae pawb yn cael eu derbyn heb eithriadau.”

Bydd yr wylnos yn dechrau tu allan i’r Senedd heno am 7yh, ac mae Cynghorydd Cyngor Caerdydd, Judith Woodman, wedi galw ar Gyngor y Ddinas i chwifio baner amryliw LGBT yn isel fel teyrnged i’r rhai a gollodd eu bywydau.

‘Casineb homoffobig’

Yn y cyfamser fe fu Aelodau Seneddol yn cynnal munud o dawelwch yn y Senedd yn San Steffan prynhawn ma er cof am y rhai fu farw.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May bod y Llywodraeth yn condemnio’r ymosodiad a bod yr heddlu yn y DU yn adolygu eu cynlluniau diogelwch ar gyfer digwyddiadau mawr cyhoeddus yn yr wythnos i ddod.

Ond dywedodd nad yw’r heddlu wedi cynghori unrhyw sefydliadau i ganslo neu ohirio unrhyw ddigwyddiadau LGBT.

“Nid ymosodiad brawychol yn unig oedd hwn, ond gweithred o gasineb homoffobig.

“Hoffwn ei gwneud yn glir i holl bobl LGBT ym Mhrydain ac ar draws y byd na fyddwn yn goddef trais a rhagfarn o’r fath,” meddai.

Ychwanegodd bod Prydain yn cynnig cymorth i’r Unol Daleithiau yn sgil yr ymosodiad.