Mae’r cynllun i dorri nifer y cynghorau lleol yng Nghymru o 22 i wyth neu naw wedi mynd, yn ôl Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru, Mark Drakeford.
Dywedodd Drakeford, oedd yn Weinidog Iechyd yn y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, ei fod yn anelu am gynnal “sgwrs ehangach” i benderfynu’r cam nesaf.
Leighton Andrews oedd yng ngofal ad-drefnu’r cynghorau yn y Cynulliad diwethaf cyn iddo golli ei sedd i Leanne Wood yn y Rhondda.
Roedd y bwriad o uno cynghorau wedi cael ei feirniadu gan y gwrthbleidiau yn y Cynulliad a rhai o arweinwyr cynghorau Llafur.
Dywedodd Andrews ym mis Chwefror fod angen i bobol “dyfu lan” er mwyn dod i gytundeb.
‘Sgwrs’
Dywedodd Drakeford wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC nad oedd e “wedi ymrwymo i ddatrysiad penodol” a bod angen “bod yn barod i gael rhyw fath o sgwrs”.
“Mae pobol yn barod iawn i gytuno bod yna heriau o flaen llywodraeth leol y mae’n rhaid eu hwynebu a’u datrys.
“Mae llinellau ar fap yn rhan o hynny, ond rhan yn unig ohono.”
Ond fe ddywedodd nad oedd yn hyderus o sicrhau digon o gefnogaeth i wthio’r cynllun yn ei flaen ar hyn o bryd.
Ychwanegodd ei fod yn awyddus i gyflwyno cynllun newydd erbyn yr hydref.