Ar drothwy’r bencampwriaeth fwyaf i dîm pêl-droed Cymru ers bron i 60 o flynyddoedd, dyma gyfle i golwg360, ac ambell wyneb cyfarwydd, ddymuno’n dda i’r bechgyn!

Mae degau o filoedd o gefnogwyr Cymru eisoes wedi cyrraedd neu ar y ffordd i Ffrainc, ac mae’r cyffro i’w deimlo ymhob man adref hefyd.

Mae goleuadau rhai o adeiladau mwyaf eiconig Cymru wedi troi’n goch ac ardaloedd arbennig i gefnogwyr wylio gemau yng Nghaerdydd acAbertawe, er nad oes cynlluniau i gynnal mannau tebyg mewn lleoliadau eraill.

Daw prawf cyntaf Cymru yfory yn erbyn Slofacia, gyda’r gêm nesaf yn erbyn yr hen elyn, Lloegr, b’nawn Iau.

Ar 20 Mehefin, bydd y garfan yn wynebu Rwsia a bydd angen iddyn nhw sicrhau o leiaf un fuddugoliaeth, neu thair gêm gyfartal, er mwyn cael unrhyw obaith o fynd i’r rownd nesaf.

Pob lwc i’r tîm!