Mae Heddlu’r Gogledd wedi rhoi’r gorau i ymchwilio i ddarn a gafodd ei gyflwyno ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

Roedd yr heddlu wedi bod yn ceisio dod o hyd i awdur y gwaith creadigol oedd yn cael ei ddisgrifio fel un yn llawn delweddau pornograffig ac anifeilaidd.

Roedd yr ymchwiliad i drosedd bosib yn cael ei chynnal o dan y Ddeddf Cyfathrebiadau Anweddus.

Er mai yn Sir Gâr yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, i swyddfa’r Steddfod yn Yr Wyddgrug y cafodd y darn ei anfon.

Cyflwynodd awdurdodau’r Brifwyl y darn i Heddlu’r Gogledd am eu bod yn ystyried y deunydd yn “groes i gyfraith gwlad”, ac roedd pryderon ymhlith y beirniaid  – Angharad Price, Dewi Prysor a Robat Arwyn – y gallai rhai o’r ffantasïau yn y darn gael eu gwireddu gan yr awdur.

Cafodd y gwaith ei ddiarddel o’r gystadleuaeth am nad oedd yr awdur wedi cydymffurfio â rheolau’r gystadleuaeth ac am nad oedd y gwaith papur wedi’i gwblhau yn y modd cywir.

Caiff Gwobr Daniel Owen ei rhoi yn flynyddol er cof am y nofelydd a fu farw yn 1895, ac mae’r enillydd yn derbyn £5,000.