Ramsey a Bale
Ar drothwy cystadleuaeth Ewro 2016, mae chwaraewr canol cae Cymru Aaron Ramsey wedi talu teyrnged i Gary Speed.

Yn ôl Ramsey, roedd teimlad ymhlith y garfan gyda Speed wrth y llyw fod modd “cyflawni rhywbeth arbennig”.

Ond fe fu farw Gary Speed ym mis Tachwedd 2011, lai na phythefnos ar ôl i Gymru guro Norwy o 4-1 yn dilyn ymgyrch aflwyddiannus i gyrraedd Ewro 2012.

Dywedodd Ramsey fod y garfan “ar goll” a bod ei farwolaeth yn ergyd drom i’r criw.

“Fe wnaeth [Gary Speed] i ni gredu y gallen ni gyflawni rhywbeth arbennig. Yna’n amlwg, fe ddigwyddodd yr hyn ddigwyddodd ac ar ôl hynny, yn naturiol, dw i’n meddwl bod y garfan gyfan wedi cael ei tharo. Roedden ni ar goll.”

Ddeufis yn ddiweddarach, cafodd ffrind agos Speed, Chris Coleman ei benodi’n rheolwr Cymru, ac fe ddywedodd Ramsey ei fod e wedi gwneud yn dda o dan amgylchiadau anodd.

“Gwnaeth Chris jobyn anghredadwy ar ôl hynny. Dydy e ddim yn beth hawdd dod i mewn o dan yr amgylchiadau hynny.

“Roedd y gemau cyntaf yn anodd, roedd chwaraewyr yn edrych fel pe baen nhw ar goll, heb wybod beth i’w wneud ac fe effeithiodd arnon ni.

“Ond ry’n ni wedi gwneud yn dda iawn i gael y grŵp yn ôl i le maen nhw, gan gredu y gallen ni wneud rhywbeth ac ry’n ni wedi’i wneud e – ond ry’n ni am gael mwy o hyd.”

Atgofion o’r prif gystadlaethau

Atgofion fel cefnogwr yn unig sydd gan Ramsey o Bencampwriaethau Ewrop, ac fe fydd y profiad o chwarae mewn twrnament rhyngwladol yn un newydd iddo yntau a gweddill y garfan.

“Mae’r chwaraewyr i gyd yn edrych ymlaen at ddangos beth maen nhw’n gallu ei wneud. Gallwch chi deimlo’r cyffro ymhlith y grŵp. Allwn ni ddim aros i gael dechrau arni a chwarae pêl-droed mewn twrnament.”

Ond fe fydd yr awyrgylch yn cyfri am ddim byd os na all Cymru berfformio ar y cae, ac mae Ramsey yn credu y gallai un fuddugoliaeth fod yn ddigon i sicrhau trydydd safle  i Gymru gael mynd drwodd o Grŵp B, sydd hefyd yn cynnwys Slofacia, Lloegr a Rwsia.

“Ein nod yw mynd trwy’r grŵp yn y lle cyntaf – a gweld beth sy’n digwydd wedyn.

“Dw i’n credu y gallai buddugoliaeth – tri phwynt – eich cael chi drwodd, efallai yn y trydydd safle. Bydd rhaid aros i weld.

“Ond ry’n ni’n benderfynol o fynd yno heb gael ein troi drosodd. Ry’n ni am greu argraff ein hunain a dangos i bobol beth allwn ni ei wneud.”

‘Dim gwyliau’

Fel un sydd wedi hen arfer â gweld ei gyfeillion o Arsenal yn cael mynd i’r prif gystadlaethau dro ar ôl tro, dywed Ramsey ei fod yn edrych ymlaen at gael bod yn ei chanol hi gyda Chymru.

“Fel arfer, dw i ar fy ngwyliau nawr. Pan ddechreuodd yr ymgyrch ac fe gawson ni gwpwl o fuddugoliaethau cynnar, ro’n i’n tynnu coes bois Arsenal gan ddweud ‘Wela i chi yn Ffrainc’.

“Y ffordd roedd pethau’n datblygu, roedd yn edrych yn addawol. Roedd cael cyflawni hynny o’r diwedd yn wych.

“Roedd cael gwybod y byddwn i’n chwarae yn y ffeinals… galla i rannu’r profiad hwnnw nawr gyda rhai o’r chwaraewyr sydd wedi’i wneud e.”

Arsène Wenger – ‘dyn doeth’

Yn ôl Ramsey, mae rheolwr Arsenal, Arsène Wenger yn ffyddiog y gall Cymru berfformio’n dda yn Ffrainc.

“Fe ddywedodd ein bod ni’n gallu bod yn eithaf peryglus felly gobeithio ei fod e’n cael ei brofi’n gywir. Mae e’n ddyn doeth!”