Wiwer Goch
Mae cyfeillion byd natur yn poeni am wiwerod coch canolbarth Cymru yn dilyn rêf anghyfreithlon ym mryniau Ceredigion yr wythnos ddiwetha’.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt dros Dde a Gorllewin Cymru, fod cynnal partïon gwyllt o’r fath mewn mannau anghysbell yn gallu peryglu bywydau gwiwerod ac anifeiliaid gwyllt eraill.

“Mae ‘na berygl o aflonyddu’r bywyd gwyllt achos ei bod yn ardal sydd ddim yn cael llawer o ymwelwyr,” meddai Lizzie Wilbersorce, sy’n Rheolwr Cadwraeth gyda’r ymddiriedolaeth.

“Gallan nhw ddod i arfer ag unrhyw aflonyddu sy’n digwydd o hyd, fel traffig, ond byddai digwyddiad mawr (fel y rêf), sy’n hollol anarferol, yn niweidiol iawn.

Ymhelaethodd: “Gall fod yn niweidiol iawn, yn enwedig i rywogaethau sy’n bridio ar hyn o bryd ac felly’n methu symud o’r ardal mor hawdd.”

Gofyn am “ystyriaeth i fywyd gwyllt”

“Byddem yn gofyn i bobol sy’n trefnu’r rêfs i ystyried yr effaith ar fywyd gwyllt,” meddai Lizzie Wilbersorce,

“Yn amlwg, maen nhw’n dewis lleoedd lle nad oes llawer o bobol, ond mae hynny’n golygu nad yw’r bywyd gwyllt yn yr ardal wedi arfer â llawer o bobol.”

Mae gwiwerod coch, sydd wedi mynd yn anifeiliaid prin iawn yng Nghymru, yn defnyddio’r goedwig i gyd yn yr ardal, meddai, ac mae lluniau diweddar yn awgrymu bod eu niferoedd ar gynnydd.

Ar hyn o bryd, dim ond mewn tri man mae’r wiwer goch yng Nghymru – Ynys Môn, Clynnog Fawr rhwng Caernarfon a Phwllheli a’r Canolbarth.

2,000 yn y rêf

Mae lle i gredu bod tua 2,000 o bobol wedi tyrru i’r rêf, rhwng Llanddewi Brefi a Llanfair Clydogau, a barodd am dridiau dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Nid oedd gan Heddlu Dyfed Powys yr adnoddau i ddod â’r rêf i ben, ond fe wnaethon nhw atal mwy o geir rhag mynd i’r digwyddiad.

Apêl yr heddlu

Mae’r heddlu bellach yn gofyn i bawb sy’n byw mewn cymunedau gwledig, yn enwedig ffermwyr, i gadw llygad am unrhyw rybuddion o ddigwyddiad arall ar y gweill.

Yn ôl yr heddlu, mae gwefannau cymdeithasol bellach yn ei gwneud hi’n haws i drefnwyr ledaenu’r neges am ddigwyddiadau, ac  o achos hynny mae nifer y bobol sy’n mynd i rêfs yn gallu tyfu’n gyflym.

“Does dim amheuaeth fod y math hwn o ddigwyddiad wedi cael ei gynllunio a’i drefnu’n dda a bod gwybodaeth leol yn bwysig i ddod o hyd i gae, sydd wedi’i dargedu fel lleoliad addas,” meddai’r Prif Uwch Arolygydd, Aled Davies.

“Gallaf sicrhau cymunedau lleol y bydd yr Heddlu yn gweithredu’n briodol i weithio gyda’n partneriaid i atal torfeydd anghyfreithlon ac i ddelio ag unrhyw droseddau sy’n cael eu canfod.”