Wrth i gyffro Ewro 2016 ddechrau go-iawn, mae’r heddlu yn cynnal ymgyrch i dargedu gyrwyr sy’n yfed a gyrru.

Bydd yr ymgyrch mis o hyd yn dechrau heddiw, gyda heddluoedd Cymru i gyd yn stopio modurwyr i wneud yn saff nad ydyn nhw’n gyrru dan ddylanwad alcohol na chyffuriau.

Mae golwg360 ar ddeall hefyd y bydd ymgyrch arall yn cael ei lansio heddiw i daclo trais domestig, gyda ffigurau’r gorffennol yn dangos bod trais yn y cartref yn cynyddu pan fydd pencampwriaeth chwaraeon fawr yn cael ei chynnal.

O’r 12,000 o brofion yfed a gyrru a gafodd eu cynnal gan yr heddlu’r llynedd, 300 oedd yn gadarnhaol. Arestiodd yr heddlu 52 o bobol am droseddau gyrru a chymryd cyffuriau.

“Dim esgus”

“Er bod yfed a gyrru, neu gymryd cyffuriau a gyrru, yn annerbyniol yn gymdeithasol erbyn hyn, mae grŵp bach o yrwyr sydd dal yn cyflawni trosedd o’r fath,” meddai Pam Kelly, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Dyfed Powys.

“Byddwn ni’n parhau i dargedu gyrwyr sy’n gyrru o dan ddylanwad alcohol neu sylweddau anghyfreithlon.

“Os ydych chi’n yfed a gyrru, neu’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau, mae’n bosibl y byddwch nid yn unig yn dinistrio’ch bywyd eich hun, ond bywydau pobl eraill diniwed.

“Nid oes unrhyw esgus dros yfed pan fyddwch dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau a gall y canlyniadau fod yn drychinebus. Meddyliwch cyn i chi fynd allan, gwyliwch beth ydych yn yfed a chynlluniwch sut y byddwch yn mynd adref.”