Gwesty'r Cleddau Bridge ble mae'r Fforwm (llun o wefan y gwesty)
olFe fydd fforwm yn cael ei gynnal yn Sir Benfro heddiw i drafod iechyd meddwl pobol ifanc ar ôl nifer o farwolaethau yn yr ardal.

Mae wedi ei drefnu gan grŵp sydd wedi ei sefydlu yn sgil hunan-laddiad bachgen ysgol wyth mlynedd yn ôl.

Mae disgwyl y bydd cynrychiolwyr y gwasanaethau addysg ac iechyd a gwleidyddion lleol yn dod i’r cyfarfod yng Ngwesty’r Cleddau Bridge yn Noc Penfro.

Roedd Oliver Edwards-Cavill o Lawhaden wedi lladd ei hun yn 2008 pan oedd yn 15 oed ac mae o leia’ ddau achos arall o bobol ifanc yn y sir yn lladd eu hunain yn ystod y tair blynedd diwetha’.

Codi cwestiynau

Mae’r grŵp, Gwella Iechyd Meddwl Pobol Ifanc yn Sir Benfro, wedi codi nifer o gwestiynau sy’n cynnwys gwasanethau cwnsela mewn ysgolion, cyllid a gwario, gofal i atal afiechyd ac adnabod arwyddion cynnar.

“Mae gwasanaethau ar gyfer pobol ifanc a’u teuluoedd sy’n wynebu problemau iechyd meddwl yn Sir Benfro yn wynebu llawer mwy o alw nag y gallan nhw ei gwrdd,” meddai Matthew Watkins, bargyfreithiwr sy’n gefnder i Oliver Edwards-Cavill.

“Mae hynny’n arwain at restrau aros hir ac, yn y pen draw, fwy o beryg i’r plant hynny. Trwy’r fforwm, r’yn ni eisiau tynnu sylw at y problemau sy’n wynebu pobol ifanc a thrafod gyda’r gymuned a rhanddeiliaid i nodi’r ardaloedd allweddol lle mae modd gweithredu i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobol ifanc yn yr ardal.”