(Llun Golwg360)
Mae cyn heddwas gyda Heddlu De Cymru wedi’i gael yn euog yn Llys y Goron Casnewydd o dreisio dwy ddynes fregus.

Ac mae’r dyfarniad wedi cael ei groesawu gan Gomisiynydd Cwynion yr Heddlu yng Nghymru.

Roedden nhw wedi cadw llygad ar ymchwiliad Heddlu De Cymru i’r troseddau a ddigwyddodd fwy na deng mlynedd yn ôl.

Dau achos o dreisio

Roedd Jeffrey Davies, 45, yn dditectif gwnstabl gyda’r heddlu tan iddo gael ei ddiswyddo yn 2013 ar ôl cael ei gyhuddo o ymosodiadau rhyw eraill.

Mae’r honiadau yn ei erbyn yn cynnwys treisio dynes yr oedd wedi ei chyfarfod drwy ei waith yn 2002, a dynes arall, y cafodd berthynas byr â hi yn 2003.

Roedd y ddwy drosedd wedi digwydd tra oedd yn gweithio gyda’r heddlu yn y Rhondda.

Daeth y dyfarniad yn ei erbyn yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru, ar y cyd â Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

‘Merched bregus’

“Roedd Jeffrey Davies yn droseddwr rhyw oedd yn cuddio o fewn yr heddlu, a wnaeth dorri ei ymddiriedaeth fel heddwas,” meddai’r Comisiynydd Cwynion yng Nghymru, Jan Williams.

“Mae wedi bod o flaen ei well am droseddau yn erbyn merched bregus, ac rwy’n canmol eu dewrder am ddod ymlaen.”

Mae disgwyl i Jeffrey Davies gael ei ddedfrydu mewn gwrandawiad arall.