Mae miloedd o Gymry wedi cyrraedd Ffrainc neu ar y ffordd yno ar gyfer ymddangosiad cynta’ tîm pêl-droed Cymru yn rowndiau terfynol pencampwriaeth fawr Ewropeaidd.

Ond maen nhw’n wynebu trefniadau diogelwch llym a rhywfaint o effaith yr anghydfod diwydiannol sydd wedi achosi trafferthion yn y wlad yn ystod yr wythnosau diwetha’.

Mae streic casglwyr sbwriel, er enghraifft, yn parhau a lluniau yn y papurau newydd o bentyrrau o sbwriel yn y strydoedd, hyd yn oed yn y brifddinas Paris.

Hanner miliwn o wledydd Prydain

Rhwng y tair gwlad – Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr – mae disgwyl y bydd hanner miliwn o gefnogwyr o wledydd Prydain yn mynd i Ffrainc.

Yn ogystal â mwy nag 20,000 o gefnogwyr Cymreig sydd wedi cael tocynnau i’r gêmau, mae yna filoedd eraill yn teithio ar siawns neu i wylio’r gêmau mewn ‘ardaloedd cefnogwyr’ sydd wedi eu trefnu’n arbennig.

Ac mae gan yr awdurdodau yn Ffrainc drefniadau diogelwch anferth, i warchod rhag ymladd rhwng cefnogwyr a rhag y peryg o ymosodiadau brawychol – stadiwm bêl-droed oedd un o dargedau ymosodwyr ym Mharis y llynedd.

Yn ôl papur Le Monde, mae yna 42,000 o swyddogion heddlu ar ddyletswydd ynghyd â 30,000 o gendarmes a 13,000 o swyddogion diogelwch.

Dechrau yn Bordeaux

Canolfan gynta’r cefnogwyr Cymreig yw Bordeaux, lle bydd Cymru’n chwarae eu gêm gynta’ nos fory yn erbyn Slovakia.

Brynhawn Iau nesa’ y bydd y gêm fwya’ trawiadol – yn erbyn Lloegr.

Fe fydd angen ennill o leia’ un gêm o’r tair yn y rowndiau cynta’, neu gael tair gêm gyfartal, i gael unrhyw obaith o gyrraedd y rowndiau nesa’.