John Grant o Fryste
Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yng Nghleidda yn Sir Fynwy nos Sadwrn wedi talu teyrnged iddo.

Bu farw John Grant, 30 o ardal Bryste ar ôl i’w feic modur Honda glas fod mewn gwrthdrawiad a Range Rover ger tafarn a bwyty’r Clytha Arms ar Ffordd Groesonen am oddeutu 7.30 o’r gloch nos Sadwrn, 4 Mehefin.

Meddai ei deulu mewn datganiad eu bod nhw wedi “torri eu calonnau’n llwyr” a’i fod yn “fab, brawd, ffrind a phartner cariadus” wnaeth farw’n gwneud “yr hun a garai.”

Cafodd dyn 60 oed o Sir Fynwy ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan 26 Medi.