Mae sawl un o gefnogwyr Cymru yn saff o fod wedi bod yn twrio yn y silff am yr hen eiriadur Ffrangeg dros y misoedd diwethaf wrth baratoi ar gyfer Ewro 2016.

Bellach mae bron pawb wedi cofio sut i gyfarch bonjour, gofyn s’il vous plaît, dweud eu bod nhw yno ar gyfer le foot, ac atgoffa rhywun je suis Gallois.

Ond beth am y dywediadau ychwanegol yna, y pethau fyddwch chi angen eu gwybod er mwyn trafod pêl-droed Cymru a’u gobeithion yn y gystadleuaeth fel petaech chi’n frodor go iawn?

Gydag ychydig o help gan ein cyfaill Ffrancoffon, Garmon Ceiro, dyma ambell frawddeg allai fod yn handi dros yr wythnosau nesaf.

Wastad yn mynd i Lydaw, byth yn mynd i Ffrainc

A ie, y dywediad adnabyddus yna ar gyfer y cenedlaetholwyr yn eu carfannau – os ydych chi am bwysleisio i’r trigolion lleol mai’r brodyr Breton yr ydych chi yma i’w gweld, yna dywedwch:

Je vais toujours en Bretagne, jamais en France

Dydi’r sgwâr ddim digon mawr i’n hogia’ ni

Fe fydd cân Gwerinos ac Yws Gwynedd yn cael ei chlywed sawl gwaith ar strydoedd Ffrainc dros y dyddiau nesaf mae’n siŵr, ond os am ganu prif lein y gytgan yn yr iaith frodorol, dyma hi:

La place n’est pas assez grande pour nos gars

‘Don’t take me home’

Cân adnabyddus arall i unrhyw un sy’n dilyn Cymru oddi cartref, ond fe fydd yn rhaid i chi ei chanu fel yr isod os am i’r Ffrancwyr gadw chi yno:

Ne m’amène pas à la maison

Tîm un dyn ydyn ni

Y cyhuddiad y byddwch chi’n ei wynebu gan sawl cefnogwr o wlad arall fydd bod tîm Cymru’n or-ddibynnol ar Gareth Bale – os am gytuno â nhw, dyma’r ateb:

On est une équipe d’un seul joueur

Dyma’r reff gwaethaf dw i erioed wedi’i weld

Pan fydd Cymru’n colli 4-0 i Slofacia wedi i’r dyfarnwr roi tair cic o’r smotyn i’r gwrthwynebwyr a gyrru Bale a Ramsey o’r maes, efallai y bydd hwn yn un handi i weiddi o’r terasau:

C’est l’arbitre le plus merdique que j’ai vu

‘As long as we beat the English we don’t care’

Wrth foddi gofidion yn y darfan ar ôl colli’r gêm agoriadol, efallai y bydd hyn yn helpu codi’r hwyliau:

“Pourvu qu’on bate les Anglais, on s’en fou”

Dyw’ch barf chi ddim cystal ag un Joe Ledley

Pan fyddwch chi’n dod ar draws rhyw Ffrancwr smart a’i flewiach wedi’i dwtio’n daclus, cofiwch ei atgoffa nad yw’n edrych hanner cystal â’r brwydrwr barfog yng nghanol cae Cymru:

“Votre barbe n’est pas aussi belle que celle de Joe Ledley”

Pwy sydd well gennych chi, y Manics neu’r Super Furrys?

Os am ddechrau ffrae fawr y ganrif, holwch pwy ryddhaodd y gân Ewro 2016 orau:

“Vous préfèrez qui? Les Manics ou les Super Furrys?”

‘We’ll never qualify’

Os ydych chi dal methu credu bod Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth bêl-droed o’r diwedd, mai rhith yw’r cyfan a’ch bod chi yno dim ond i gefnogi pwy bynnag sy’n chwarae Lloegr, dyma beth i’w ddweud yn ddigalon:

“On ne qualifierai jamais”

Na, dyw George a Jonny Williams ddim yn frodyr

Pan fydd y Ffrancwyr yn holi beth yw’r berthynas rhwng y ddau asgellwr bach penfelen, cofiwch ddweud wrthyn nhw nad yw pawb yng Nghymru o’r enw Jones, Williams neu Davies yn perthyn i’w gilydd:

“Non, George et Jonny Williams ne sont pas frères”

Rydyn ni’n mynd i golli pob gêm

Ar ôl gwrando ar bodlediadau golwg360 yn asesu gwrthwynebwyr Cymru, trowch yn ddigalon at eich ffrind newydd a dweud:

“Nous allons perdre tous nos matchs”

Welwn ni chi yn y ffeinal!

Ond ar ôl trechu Slofacia a Rwsia, a rhoi cweir o 5-1 i Loegr, trowch at y ffrind hwnnw mewn cyffro llwyr a bloeddio:

“On se voit en finale!”