David Jones AS arweinydd Vote Leave yng Nghymru
Mae’r ymgyrch dros adael yr Undeb Ewropeaidd (UE), Vote Leave, wedi cyhoeddi heddiw fod busnesau bach a chanolig yn “colli allan ar eu cyfran nhw o £187 biliwn mewn cytundebau sector cyhoeddus oherwydd aelodaeth Prydain o’r UE.”

Gyda phythefnos union i fynd tan y refferendwm, mae Vote Leave wedi tynnu sylw at ymchwil gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n amlygu mai dim ond 13% o fusnesau bach a chanolig Cymru wnaeth gais am gytundebau sector cyhoeddus y llynedd.

Maen nhw’n ychwanegu fod gan y sector honno’r potensial i ryddhau gwerth £187 biliwn o gytundebau bob blwyddyn.

Yn ôl yr ymgyrch, rhai o’r rhesymau pam nad yw busnesau bach a chanolig wedi manteisio ar gytundebau o’r fath yn y gorffennol yw bod “anghenion tendro cymhleth” iddyn nhw a bod y “rheolau yn feichus.”

 

‘Enaid yr economi Gymreig’

 

Dywedodd yr AS David Jones ac arweinydd Vote Leave yng Nghymru mai “busnesau bach a chanolig yw enaid yr economi Gymreig, ac yn cyfrif am 99% o holl fusnesau Cymru.”

“Mae’n amlwg fod aelodaeth Prydain o’r UE yn ei gwneud hi’n rhy anodd iddyn nhw gael mynediad at gytundebau’r sector cyhoeddus,” ychwanegodd.

Esboniodd fod y gweithdrefnau caffael fel arfer yn costio tua £45,000 ar gyfartaled – “sy’n ei gwneud hi’n amhosibl bron i fusnesau bach a chanolig gystadlu gyda chystadleuwyr mawr.”

Am hynny, dywedodd y byddai gadael yr UE yn fodd i “waredu â’r fiwrocratiaeth.”

Dywedodd fod gan Gymru “ddiwylliant ffyniannus ar gyfer entrepreneuriaeth,” ac “os byddai pob busnes bach yng Nghymru yn cael eu rhyddhau i gyflogi o leiaf un gweithiwr ychwanegol, gallai diweithdra yng Nghymru gael ei ddileu mewn ergyd.”