Llun: Cyfeillion y Ddaear
Mae Cyfeillion y Ddaear yn galw am wahardd y defnydd o ddulliau anghonfensiynol o echdynnu nwy o’r ddaear yng Nghymru.

Daw’r alwad gan ymgyrchwyr ar ôl i ddrafft o Fesur Cymru gynnwys datganoli pwerau tros drwyddedau i Gymru.

Mae disgwyl i saith o drwyddedau yn y de ddod i ben yn y dyfodol agos, ac mae Cyfeillion y Ddaear yn galw am roi’r gorau i roi trwyddedau o’r newydd.

Dywedodd cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear, Gareth Clubb: “Mae ffracio a tyllu am nwy sial ymhlith y dulliau mwyaf radical ac amhoblogaidd o echdynnu tanwyddau ffosil erioed yng nghymunedau’r DU.

“Mae pobol yn gywir iawn yn gwrthsefyll y cwmnïau hyn sy’n echdynnu ac yn llygru lle bynnag y byddan nhw’n ymddangos.

“Felly mae’n newyddion da bod y trwyddedau hyn yn cael eu datganoli i Gymru. Mae’n golygu y bydd pobol Cymru’n gallu gwrthsefyll yn haws, gan wybod y bydd gan wleidyddion Cymru – sy’n llwyr ymroddedig i wrthwynebu nwy anghonfensiynol – reolaeth.”

Ychwanegodd fod “cymunedau’n parhau i ofni datblygiad diwydiannol enfawr a thraffig trwm ar stepen eu drws” heb fod gwaharddiad yn cael ei gyflwyno.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr er mwyn dangos i bobol Cymru ei bod am droedio llwybr gwahanol i ddyddiau tanwyddau ffosil tywyll y gorffennol.”