Chris Coleman yn pendroni a ddylai roi cynnig ar ateb holl gwestiynau cynhadledd y wasg mewn Ffrangeg (llun:Joe Giddens/PA)
Un peth sy’n saff o fod ym mag sawl un o gefnogwyr Cymru sydd yn teithio draw i Ewro 2016 yr wythnos hon fydd llyfryn bach â’r dywediadau Ffrangeg angenrheidiol arni.

Ond mae’r chwaraewyr hefyd wedi bod yn ymarfer eu Français yn ddiweddar, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu hymddangosiad yn y twrnament sydd yn dechrau ddydd Gwener.

Pa mor gyfforddus yw Ben Davies gyda garlleg a beret am ei ben? A fydd Joe Allen yn hyderus wrth gymryd pénalité?

Ydi Neil Taylor yn credu nous allors gagner? Ym mha iaith y mae Owain Fôn Williams yn mynd i ofyn am ‘mwy o bob dim’?

Owain Williams, cyflwynydd rhaglen Tag, fu’n profi sgiliau ieithyddol y chwaraewyr:

Bydd rhaglen arbennig o Tag yn edrych ymlaen at ddiwrnod cynta’ cystadleuaeth Ewro 2016 yn cael ei darlledu ddydd Gwener 10 Mehefin am 5.00yp ar S4C.