Mae ‘ansicrwydd’ ynghylch dyfodol rhai aelodau o staff Cymraeg i Oedolion, yn dilyn symud cyfrifoldeb y gwasanaeth i gyrff eraill.

Yn ôl yr undeb llafur UNSAIN Cymru, dydy rhai aelodau o staff heb gael cadarnhad os bydd cytundeb newydd yn eu cyrraedd eto.

Mae’r undeb bellach wedi galw ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, i ymyrryd yn y sefyllfa.

Cyhoeddodd cylchgrawn Golwg ym mis Chwefror, y byddai cyfrifoldeb am y gwasanaeth yn cael ei rannu rhwng rhagor o gyrff dros y tair blynedd nesaf, gan olygu y bydd rhai o’r gweithredwyr mwyaf yn y maes yn gwneud llai.

Yn ôl UNSAIN, roedd disgwyl y bydd aelodau o staff sydd yn dysgu cyrsiau Cymraeg yn dechrau eu cytundebau newydd ar 1 Awst, ond dydy rhai heb gael cadarnhad os oes gwaith ar gael iddyn nhw.

Ar wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae’n nodi bod y “broses o bennu darparwyr yn mynd rhag blaen a bwriedir cyhoeddi’n fuan pwy yw’r darparwyr ar gyfer Awst 2016.”

“Annerbyniol”

Mae UNSAIN Cymru wedi dweud bod y sefyllfa’n “annerbyniol” ac “annheg”, ac mae’r undeb wedi ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg Alun Davies.

“Mae’n gwbl annerbyniol bod cannoedd o staff a miloedd o ddysgwyr Cymraeg yn ansicr dros p’un ai fydd cyrsiau sydd i fod i ddechrau ym mis Awst a mis Medi yn parhau,” meddai Dominic MacAskill, pennaeth llywodraeth leol UNSAIN Cymru.

“Mae rhai o’n haelodau sy’n ymwneud â darparu’r cyrsiau hyn yn ansicr os byddan nhw’n cael eu symud i gyflogwr newydd neu’n cael eu diswyddo.

“Mae’n amlwg yn annheg eu bod yn cael eu cadw mewn limbo. Maen nhw’n haeddu gwybod beth sy’n digwydd gyda’u swyddi.

“Gan mai Llywodraeth Cymru sy’n atebol am Gymraeg i Oedolion, credwn fod ganddi ddyletswydd i ofalu dros y rhai sy’n darparu’r gwasanaeth.

“Dydy’r diffyg eglurder parhaus ddim yn ddigon da.”

‘Anorfod gwneud penderfyniadau anodd’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a sefydlwyd yn ddiweddar yn gyfrifol am ddatblygu’r sector ar lefel strategol.

“Wrth i’r Ganolfan newid y ffordd y mae cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn cael eu darparu, mae’n anorfod bod penderfyniadau anodd yn cael eu gwneud.

“Er ei bod wrth reswm yn gyfnod anodd i’r rhai sy’n gweithio o fewn y sector, rydyn ni’n hyderus y bydd y newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith mewn da bryd i’r cyrsiau, sy’n cael eu darparu i dros 15,000 o bobl,  gychwyn ym mis Medi.”