Richard Alden, (Llun: LinkedIn)
Mae dyn o Fro Morgannwg wedi cael ei arestio yn Kenya ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddynes gael ei saethu’n farw yn ei dŷ ger dinas Nairobi.

Yn ôl Richard Alden, 52, o’r Bontfaen, a ymddangosodd yn y llys ddydd Llun, roedd Grace Wangeci Kinyanjui, 42, wedi bod yn tynnu llun o’i hun tra’n dal ei wn, ac wedi saethu ei hun yn ddamweiniol.

Roedd y dyn busnes cyfoethog wedi mynd â’r ddynes i’r ysbyty fore dydd Sadwrn, gan honni ei bod wedi saethu ei hun.

Ond mae bellach yn wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth, ar ôl i feddygon ddweud eu bod wedi dod o hyd i anafiadau ar gorff Grace Wangeci Kinyanjui, oedd yn awgrymu ei bod wedi cael ei thrywanu.

Yn ôl y meddygon, roedd ei bys a’i bawd wedi’u torri hefyd.

Mae Richard Alden, sy’n gyn-brif weithredwr ar gwmni Deloitte, yn byw ym mhrifddinas Kenya, Nairobi, gyda’i wraig Martine, a thri o blant hŷn.