Yr ymennydd
Ar ôl agor y Cynulliad yn swyddogol heddiw, bydd y Frenhines a Dug Caeredin yn agor canolfan newydd ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n ymchwilio i’r ffordd mae’r ymennydd yn gweithio.

Bydd y ddau yn cael taith o amgylch Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd, sydd wedi costio £44 miliwn ac sydd ag offer newydd ac unigryw i Ewrop.

Mae’r ganolfan yn cynnwys sganiwr yr ymennydd mwyaf pwerus Ewrop a sganiwr MRI sydd wedi’i addasu’n arbennig – un o’r unig ddau yn y byd, gyda’r llall ym Mhrifysgol Harvard yn America.

Bydd y sganiwr, sydd wedi’i ddisgrifio fel “y telesgop Hubble o’r byd niwro-wyddonol”, yn galluogi ymchwilwyr i astudio meicro-strwythur meinweoedd yr ymennydd yn fanwl iawn.

Dywedodd Is-ganghellor y Brifysgol, Colin Riordan, ei fod yn “fraint i’r Brifysgol” cael croesawu’r teulu brenhinol i’r ganolfan.

“Mae ein gwaith yn bwysig yn rhyngwladol a byddwn yn ceisio ymchwilio i salwch ar yr ymennydd fydd yn arwain at ddatblygu triniaethau gwell,” meddai wrth egluro gwaith y ganolfan.

Dementia a sgitsoffrenia

Mae hyn yn golygu bydd y Brifysgol yn ymchwilio i glefydau fel dementia, sgitsoffrenia a sglerosis ymledol, yn ogystal â dod i ddeall sut mae ymennydd normal ac iach yn gweithio.

Yn ôl Cyfarwyddwr y ganolfan newydd, yr Athro Derek Jones, bydd y ganolfan yn cynnwys rhai o staff gorau’r byd yn y maes ynghyd â’r sganwyr mwyaf pwerus.

“Mae gan hyn y potensial i ddarganfod yr hyn gall wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobol ledled y byd,” meddai.

Yn ystod yr agoriad heddiw, bydd cerflun wedi’i gomisiynu’n arbennig gan fyfyriwr Doethuriaeth, Gemma Williams, o Ysgol Seicoleg y Brifysgol, yn cael ei ddadorchuddio.

Gyda’r holl beth yn costio £44m, mae £27m o hyn wedi dod gan noddwyr, sy’n cynnwys y Cyngor Ymchwilio dros Wyddoniaeth Beirianyddol a Chorfforol, Cronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop, y Cyngor Ymchwilio Meddygol, Ymddiriedolaeth Wellcome, Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad Wolfson.