Bethan Jenkins AC Plaid Cymru
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi cyhoeddi heddiw na fydd yn mynd i agoriad swyddogol y Pumed Cynulliad yfory.

Mewn neges ar Twitter, dywedodd Bethan Jenkins: “Fel gweriniaethwr ymroddedig, fydda’ i ddim eto’n mynychu agoriad brenhinol o’r #senedd. Byddaf yn parhau gyda’r gwaith o wasanaethu’r bobol yn fy rhanbarth.”

Fe fydd y Frenhines, Dug Caeredin, Y Tywysog Siarl a Duges Cernyw yn teithio i Fae Caerdydd yfory er mwyn agor tymor newydd y Cynulliad Cenedlaethol.

ACau eraill Plaid Cymru i fynychu

Dyma’r eildro i Bethan Jenkins, AC De Orllewin Cymru, osgoi digwyddiad o’r fath, oherwydd roedd yn un o bum Aelod Cynulliad Plaid Cymru i osgoi’r union seremoni yn 2011.

Ymhlith y pedwar arall, roedd arweinydd presennol y blaid Leanne Wood, Llyr Huws Gruffydd, Lindsay Whittle ac arweinydd y blaid ar y pryd – Ieuan Wyn Jones, a oedd ar ei wyliau ond wedi ymddiheuro.

Er hyn, mae llefarydd ar ran Plaid Cymru wedi cadarnhau wrth golwg360 heddiw y bydd pob un o’r 11 Aelod Cynulliad arall yn bresennol yn yr agoriad y tro hwn.

Ychwanegodd y llefarydd fod Bethan Jenkins yn “cynnal cyfarfodydd yn ei hetholaeth.”

Yn ystod y seremoni, fe fydd areithiau gan y Llywydd Elin Jones o Blaid Cymru, y Frenhines a’r Prif Weinidog Carwyn Jones.