Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru Llun: Plaid Cymru
Nid yw’r ffrae dros ethol Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru wedi effeithio ar gefnogaeth Plaid Cymru,  yn ol y pôl diweddaraf gan Ganolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd

Yn y bleidlais gyntaf ar Fai 11, fe fethodd Carwyn Jones â sicrhau digon o bleidleisiau i ddod yn Brif Weinidog Cymru, gyda Leanne Wood yn gyfartal ag ef, wedi i aelodau Ceidwadol ac UKIP y Cynulliad roi eu pleidlais i arweinydd Plaid Cymru.

Yna, wedi wythnos o drafodaethau, fe gefnogodd Plaid Cymru ethol Carwyn Jones wedi iddyn nhw sicrhau cefnogaeth Llafur i rai o’u prif bolisïau gan gadarnhau eu bod am “gydweithio nid clymbleidio.”

Ond, mae’r pôl cyntaf ers Etholiadau’r Cynulliad yn dangos na wnaeth y ffrae hon effeithio ar gefnogaeth Plaid Cymru – ac yn wir maen nhw wedi profi cynnydd ers y pôl diwethaf.

Cefnogaeth etholaethol

Cafodd 1,017 o oedolion Cymru eu holi fel rhan o’r arolwg rhwng Mai 30 a Mehefin 2.

Mae canlyniadau ar gyfer y bleidlais etholaethol yn dangos 5% o gynnydd yng nghefnogaeth Plaid Cymru ers y pôl diwethaf cyn Etholiadau’r Cynulliad.

Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos fod y gefnogaeth i UKIP, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi parhau’n gyson. Ond, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gweld gostyngiad o 3% yn eu cefnogaeth o ran y bleidlais etholaethol.

Dyma’r ffigurau:

Plaid Pôl newydd Pôl diwethaf Canlyniad Etholiad
Llafur 34% 34% 34.7%
Plaid Cymru 23% 18% 20.5%
Ceidwadwyr 18% 21% 21.1%
UKIP 15% 16% 12.5%
Dem Rhydd 7% 8% 7.7%
Eraill 3% 4% 3.5%

Cefnogaeth ranbarthol

O ran y bleidlais ranbarthol, mae’r darlun yn ddigon tebyg heb awgrym fod Plaid Cymru wedi’u heffeithio gan yr helynt o ethol Prif Weinidog.

Fe wnaeth yr arolwg hefyd ofyn i’r bobol pa blaid oedden nhw’n credu oedd wedi gweld ‘gwelliant’ neu ‘niwed’ i’w henw da wedi’r etholiad. Fe wnaeth mwy o’r cyfranogwyr nodi fod Plaid Cymru wedi gweld ‘gwelliant’, ond mwy yn nodi ‘niwed’ o ran enw da Llafur, y Ceidwadwyr Cymreig, UKIP a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn ôl Roger Scully o Brifysgol Caerdydd, “mae’r tabl hwn yn atgoffa sut mae materion sy’n cyffroi gwylwyr agos y digwyddiadau ym Mae Caerdydd yn methu â thorri trwyddo at nifer o bobol – hyd yn oed yn achos pleidlais y Prif Weinidog a gafodd sylw gan y cyfryngau ar draws y DU.

“Mae ein harolwg yn arddangos fod Plaid Cymru wedi ymddangos fel y blaid sy’n cael ei chyfrif fwyaf cadarnhaol, a Llafur y blaid wedi’i niweidio fwyaf. Nid dyna fyddai’r rhan fwyaf o’r sylwebaeth wedi arwain unrhyw un i ddisgwyl,” ychwanegodd.