Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yng Nghleidda yn Sir Fynwy nos Sadwrn.

Bu farw John Grant, 30 o ardal Bryste ar ôl i’w feic modur Honda glas fod mewn gwrthdrawiad a Range Rover ger tafarn a bwyty’r Clytha Arms ar Ffordd Groesonen am oddeutu 7.30 o’r gloch nos Sadwrn, 4 Mehefin.

Bu farw John Grant yn y fan a’r lle ac mae ei deulu yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Cafodd dyn 60 oed o Sir Fynwy ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan 26 Medi.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad gysylltu â’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 562 04/06/16.