Llun: PA
Mae’r ymgyrch yng Nghymru i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud y byddai angen £246 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru os bydd y wlad yn penderfynu aros yn rhan o’r undeb.

Mae’r ffigurau wedi’u selio hyd at y flwyddyn 2030 ac yn deillio, meddai’r ymgyrch Vote Leave Wales, o’r lefelau mewnfudo i’r wlad o wledydd eraill yr UE sydd i’w disgwyl o fewn y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd yr AS dros Sir Fynwy, David Davies, sy’n ymgyrchu i adael, fod disgwyl i Albania, Macedonia, Montenegro, Serbia a Thwrci gael aelodaeth o’r undeb ac y byddai hyn yn “bwysau aruthrol” ar y Gwasanaeth Iechyd.

Yn ôl yr ymgyrch, gallai hyn olygu y bydd y DU yn gweld cynnydd o 5 miliwn yn ei phoblogaeth erbyn 2030 – gan gynnwys 131,000 i Gymru.

 

John Major yn lladd ar ymgyrch Brexit

Fodd bynnag, mewn cyfweliad ar y teledu dros y penwythnos, dywedodd y cyn-Brif Weinidog, John Major, nad yw’r Gwasanaeth Iechyd yn ddiogel yn nwylo’r sawl sy’n ymgyrchu i adael yr UE.

Ar raglen The Andrew Marr Show, dywedodd y byddai’r Gwasanaeth Iechyd “mor ddiogel â bochdew wedi’i adael mewn ystafell gyda pheithon” dan arweiniad arweinwyr yr ymgyrch i adael fel Boris Johnson a Michael Gove.

Mae’r ymgyrch i adael wedi diystyru ei honiadau, gan ddweud bod y Gwasanaeth Iechyd yn fwy diogel os yw Prydain yn penderfynu gadael yr UE.

“Yn hytrach nag anfon arian tramor i wledydd sydd am ymuno â’r UE, credaf y dylwn wario ein harian ar flaenoriaethau lleol yma yng Nghymru a ledled y DU,” meddai David Davies.

“Mae hyn oherwydd nifer y tai sydd gennym, argaeledd lleoedd mewn ysgolion a chapasiti y Gwasanaeth Iechyd i ymdopi â rhagor o bobol.

Galwodd ar Brydain i “gymryd rheolaeth o’i ffiniau a’i gwasanaethau cyhoeddus drwy bleidleisio i adael yr UE.”

Ceisio cryfhau’r achos i aros

Ar ochr arall y ddadl, bydd y Prif Weinidog, David Cameron, yn ymuno â ffigurau o bleidiau eraill i gryfhau’r achos dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y grŵp hwn yn cynnwys Harriet Harman o’r Blaid Lafur, Tim Farron, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol a Natalie Bennett o’r Blaid Werdd yn Lloegr.

Nod y grŵp yw rhoi pwysau ar yr ochr dros adael yr UE i gyflwyno cynllun economaidd i’r DU os bydd yn gadael ar ôl y bleidlais ar 23 Mehefin.

Dydd Mawrth, 7 Mehefin yw’r dyddiad cau dros gofrestru i bleidleisio yn y refferendwm.