15,000 o gystadleuwyr ymhlith yr ymwelwyr
Mae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi bod mwy o bobol wedi bod ar y Maes yn Sir y Fflint yr wythnos hon nag yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Roedd 90,316 o bobol wedi bod ar y Maes yn ystod yr wythnos.

Roedd 15,000 o bobol wedi bod yn cystadlu, a thros 200 o wirfoddolwyr yn stiwardio.

Fe fu saith aelod o staff yr Urdd yn rhedeg y rhagbrofion, ac roedd y tîm wedi cerdded tua 924,000 cam – neu 438 o filltiroedd.

Technoleg a gwefannau cymdeithasol

Mae dros 20,000 o bobl wedi lawr lwytho ap Eisteddfod yr Urdd, ac 8,800 o fideos wedi eu gwylio ar yr ap.

Ar wefan Twitter, cafodd 8,116 o negeseuon eu rhannu gan ddefnyddio’r hashnod #urdd2016 a chafodd neges #urdd2016 ei gweld gan 2.3 miliwn o gyfrifon Twitter.

Roedd gan griw Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái 2017 bwll tywod anferth ar y Maes, lle bu tua 3,000 o blant yn adeiladu cestyll tywod.   Llwyddodd y criw i godi £2,800 tuag at yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.

Ystadegau

Salads a thatws trwy’u crwyn werthodd orau yng Nghaffi Mistar Urdd eleni, gyda 100kg o colslaw, 120kg o domatos a 270kg o datws wedi eu paratoi yn ystod yr wythnos.

Cymerodd 800 o blant ran yn sialens gicio’r ardal chwaraeon, a chafodd tua 11,000 saeth eu hanelu at y targed yn ardal saethyddiaeth Gwersyll Llangrannog. Cafodd 635 hwdi a 514 tedi Mistar Urdd eu gwerthu ym Mhentref Mistar Urdd.

Cafodd ymgyrch ategolion Merched y Wawr wythnos wych gyda £1,500 wedi ei godi tuag at Sefydliad y Galon, sy’n codi cyfanswm ers lansio’r ymgyrch 18 mis yn ôl i £18,000.

Stondin arall oedd yn canmol eu hwythnos yn yr Urdd oedd Cowbois, cwmni sy’n gwerthu hwdis a crysau-t Cymraeg o’r Bala.

Yn ôl Wyn ap Gwilym, “Rydym wedi cael Eisteddfod arbennig o dda eleni ac wedi bod yn cario mwy o stoc i’r Maes bob dydd.  Yr hwdis sydd wedi gwerthu orau yw’r rhai pêl-droed – C’mon Cymru 2016 a Cymru Ewro 2016.”

Dathlu’r Gymraeg

Hon oedd wythnos gyntaf Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd, wrth y llyw yn ystod yr Eisteddfod.

Dywedodd, “Rwyf wir wedi mwynhau fy Eisteddfod gyntaf fel Prif Weithredwr – mae’r croeso wedi bod yn anhygoel, y tywydd wedi bod yn fendigedig a chydweithio gwych wedi bod rhwng y gwirfoddolwyr lleol a’r staff.

“Trwy gydweithio rydym wedi creu rhywbeth arbennig iawn, unigryw sy’n dathlu egni a dyfodol plant a phobl ifanc ac yn dathlu’r Gymraeg.

“Mae gwneud hynny mewn ardal sydd ar y ffin, ble mae’r Gymraeg yn cael ei hystyried yn brin, yn golygu llawer.  Mae’r bwrlwm, y lliw, yr egni a’r chwerthin wedi fy ysbrydoli.”

Llongyfarchiadau

Un o’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn hynod brysur yn ystod yr wythnos ac yn eithriadol o falch fod cynifer wedi dod i’r Eisteddfod yw Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol, Jeremy Griffiths.

Dywedodd, “Dwi wedi bod wrth fy modd wythnos yma, mae wedi bod yn wythnos wych a mae wedi bod yn anhygoel gymaint o bobl ddieithr sydd wedi dod ataf i longyfarch y pwyllgor – a dwi isho rhannu hwna efo’r holl wirfoddolwyr lleol mor fuan â phosibl.

“Dwi wedi mwynhau gwylio’r cystadlu a safon anhygoel y plant a phobl ifanc trwy gydol yr wythnos ond os byddai rhaid i mi ddewis uchafbwynt, mae’n debyg mai y sioeau cynradd ac uwchradd fyddai rhaid i mi ddewis – Hersprê a Fflamau Fflint.

“Roedd yn eithaf emosiynol gweld plant ardal Sir y Fflint yn perfformio sioeau o’r fath safon proffesiynol.   Y cyfan alla i wneud rŵan ydy dymuno pob lwc i’r Eisteddfod ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái y flwyddyn nesaf.”