Ieuan Wyn Jones a Muhammad Ali yn 2008
Mae cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Cymru wedi bod yn siarad ymhellach am ei gyfarfyddiad â’r cyn-focsiwr, Muhammad Ali, ac yn cofio fel yr oedd yn falch o glywed fod ganddo ddilynwyr yr ochr hon i For Iwerydd.

Pan aeth Ieuan Wyn Jones draw i Louisville, Kentucky, yn 2008 ar gyfer cystadleuaeth golff Cwpan Ryder, fe gafodd gyfarfod ag Ali yn y dre’ honno.

Fe fyddai’r Cwpan yn dod i Gasnewydd yng Nghymru yn 2010, a chyn bod y seremoni i drosglwyddo’r awenau yn swyddogol yn digwydd, fe gafodd gwahoddiad ei estyn i Muhammad Ali ddod i dderbyniad i hyrwyddo Cymru.

“Oherwydd bod ei iechyd o’n reit fregus ar y pryd, doedd o ddim yn derbyn llawer o wahoddadau,” meddai Ieuan Wyn Jones wrth golwg360. “Doedd o ddim yn gwybod lot am Gymru, ond mi oedd o’n falch o glywed fy mod i, fy nhad a fy mrawd wedi codi ganol nos i wylio un o’i ornestau o yn y 1960au… un o’r rhai yn erbyn Sonny Liston. Roedd o’n licio’r syniad fod yna bobol yng Nghymru yn ei wylio’n ymladd.

“Ac roedd o’n awyddus i hybu Cymru fel rhywle fyddai’n elwa o gynnal Cwpan Ryder. Roedd o’n andros o gymeriad hoffus, mae’n rhaid dweud,” meddai Ieuan Wyn Jones wedyn. “Oherwydd ei afiechyd, doedd o ddim yn gallu siarad, ond roedd o wedi sgwennu rhywbeth am Gymru a Chwpan Ryder, ac fe ddarllennodd ei wraig o y darn hwnnw yn y derbyniad.”

A’r anrheg a ddygodd Ieuan Wyn Jones draw i Kentucky i’r Bocsiwr Gorau Erioed? Grogg – sef model crochenwaith o’r bocsiwr ei hun – gan y cwmni o Bontypridd sy’n arbenigo mewn modelau o chwaraewyr rygbi. Mae Muhammad Ali i’w weld yn edmygu’r anrheg yn y llun.