Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ail-agor priffordd yr A44, wedi i’r ffordd fod ar gau am hanner awr ddechrau’r pnawn.

Fe fu’n rhaid cau’r ffordd oherwydd fod cerbyd wedi torri i lawr ychydig i’r gogledd o Langurig.

Ond mae’r cerbyd hwnnw wedi ei symud bellach, ac mae’r traffig yn llifo eto.