Fe fydd pob un o siopau British Home Stores yng Nghymru, yn cau, wrth i’r cwmni ddirwyn i ben.

Fe fydd canghennau Bae Caerdydd, Llandudno, Casnewydd, Abertawe, Wrecsam a Chaerfyrddin, yn cau eu drysau, a channoedd o swyddi’n cael eu colli

Y gobaith oedd y byddai modd i’r gweinyddwyr ddod o hyd i brynwr i’r busnes a aeth i ddwylo’r gweinyddwyr ym  mis Ebrill… ond ddaeth yna ddim byd o gynigion munud ola’ gan gadwyni Mothercare a Sports Direct.