Bu car ar dân ger maes Eisteddfod yr Urdd yn dilyn gwrthdrawiad ar y ffordd ger mynedfa’r maes.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, cawson nhw wybod am y gwrthdrawiad am tua 9:55 y bore yma ac roedd wedi digwydd rhwng dau gar.

Mae ffordd yr A5119 ger Y Fflint ar gau ar hyn o bryd, a’r Gwasanaeth Tân yn delio â’r sefyllfa.

Mae ambiwlans ar y safle ond yn ôl yr heddlu, does neb wedi cael niwed difrifol.

Erbyn hyn mae’r tân wedi ei ddiffodd.