Mae Gŵyl Rhif 6 wedi creu ‘Boutique Retreat’ ar gyfer clwydo mewn moethusrwydd dros bedair noson ym Mhortmeirion ym mis Medi.

Yn ôl adolygwr papur newydd The Independent, Gŵyl Rhif 6 yw “The most bijou location of any event I have ever attended”.

Am £4,510 mae modd llogi carafán ‘Airstream’ i ddau sy’n cynnwys system awyru a sgrin deledu denau.

Am £2,765 caiff dau berson wersylla am bedair noson mewn moethusrwydd yn y babell ‘Luxury Bedouin’.

Mae yurt 14 troedfedd hefyd ar gael am yr un pris, sy’n cynnwys gwely maint brenin a dodrefn pren.

Cwmni o Gymru sy’n darparu’r yurts moethus – Freddie’s Yurt sydd o Gaersws yn y canolbarth.

Fe gafodd Gŵyl Rhif 6 ei chynnal am y tro cyntaf yn 2012 ac mae wedi denu miloedd i’r Wynedd wledig i fwynhau perfformiadau gan y Manic Street Preachers, Grace Jones, Chic a Bryn Fôn.

Eleni fe fydd Noel Gallagher, y Super Furry Animals, Gwenno a Geraint Jarman yn rhan o’r miri.