Daeth dros 13,000 o ymwelwyr i faes Eisteddfod yr Urdd 2016 ar bedwerydd diwrnod yr ŵyl, rhyw 500 yn llai na’r ffigwr y llynedd.

Yr union ffigwr oedd 13,144, sy’n gynnydd o ryw 3,000 ers Eisteddfod Meirionnydd yn 2014.

Bu’r haul yn dal i dywynnu’n braf ar faes Sir y Fflint, wrth i’r ŵyl gadeirio ei Phrifardd – Gwynfor Dafydd o Donyrefail.

Cafodd enillwyr Gwobrau Tir na n-Og eu cyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn hefyd, a bu golwg360 ar grwydr o amgylch y maes yn holi Llywydd yr Urdd, Dan Rowbotham ac Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, Guto Bebb.

Daeth y cyhoeddiad heddiw y bydd yr Urdd yn teithio i Frycheiniog a Maesyfed yn 2018, ar faes y Sioe Frenhinol, ac yn 2019, bydd yn teithio i Fae Caerdydd, am y trydydd tro mewn 20 mlynedd.

Cafodd golwg360 y cyfle hefyd i gael gwybod mwy am rai o stondinau’r maes a’r hyn sydd ganddyn nhw i gynnig i ymwelwyr.