Amanda Rees, y Cyfarwyddwr Cynnwys newydd (Llun: S4C)
Arbenigwraig ar gynhyrchu rhaglenni teledu ar y cyd gyda gwledydd eraill sydd wedi cael ei phenodi i brif swydd gynnwys S4C.

Mae penodiad Amanda Rees o gwmni annibynnol TiFiNI yn cael ei weld yn arwydd o angen y sianel i ddenu arian tramor i helpu i dalu am rai cynyrchiadau.

Wrth ei chroesawu i swydd Cyfarwyddwr Cynnwys, fe roddodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, y pwyslais i gyd ar yr elfen honno o’i gyrfa.

“Mae ei gwaith gyda chwmnïau y tu allan i Brydain yn werthfawr ac mi fydd ei dealltwriaeth o hynny yn bwysig iawn wrth i S4C adeiladu ar gyfleoedd i gyd-weithio gyda phartneriaid y tu hwnt i Gymru,” meddai.

Gyrfa Amanda Rees

Roedd Amanda Rees wedi dechrau ei gyrfa yn gweithio ar gyd-gynhyrchiad rhyngwladol gyda chwmni Opus cyn mynd yn ei blaen i wneud nifer o gyfresi ar  y cyd gyda phartneriaid tramor trwy gwmni Green Bay.

Fe greodd ei chwmni ei hun yn 2012, gan gynhyrchu rhaglenni i sianeli fel Foxtel yn Awstralia a Channel 4 yn Lloegr.

Ers blynyddoedd, mae S4C wedi pwysleisio’r angen i gwmnïau Cymraeg ddenu incwm o ffynonellau y tu allan i’r sianel ac mae cyd-gynyrchiadau’n cael eu hystyried yn ffordd bwysig ymlaen yn enwedig ym maes dogfen.

Fe fydd Amanda Rees yn dechrau ar ei gwaith ddiwedd yr haf, gan ddilyn Dafydd Rhys a fu’n Gyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C am bum