Kirsty Williams - ei pholisi hi yw'r gostyngiad (o wefan y Dem Rhydd)
Mae undeb athrawon yn dweud bod lleihau meintiau dosbarthiadau’r Cyfnod Sylfaen i 25 o ddisgyblion neu lai yn bwysig – er gwaetha’ amheuon un arbenigwr addysg amlwg.

Ond mae UCAC hefyd yn poeni a fydd rhaid i rannau eraill o’r byd addysg golli arian er mwyn talu am y gostyngiad sydd wedi ei addo gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl Rolant Wynne, Swyddog Maes y Gogledd UCAC, mae’r berthynas rhwng nifer athrawon a nifer  disgyblion yn “bwysig iawn” ac wedi “llithro” mewn blynyddoedd diweddar.

“Mae llwyth gwaith athrawon wedi mynd yn llawer mwy sylweddol, ac mi fyddai cyfyngu’r niferoedd i 25 yn rhoi rhyw darged i weithio tuag ato,” meddai wrth golwg360.

Poeni am arian

Hyd yn hyn does dim addewid wedi bod i ddod o hyd i arian newydd i dalu am yr ymrwymiad i dorri maint dosbarthiadau ac roedd hynny’n poeni’r undeb.

“Ond, wrth gwrs, mae rhaid cael yr arian, a be mae rhywun eisie gwybod ydy o le mae’r arian yn dod ac ar draul beth mae’r polisi yma’n mynd i gae ei weithredu,” meddai Rolant Wynne.

Mae ymgynghorydd addysg Llywodraeth Cymru, yr Athro David Reynolds, wedi beirniadu’r polisi posib, gan ddweud na fydd yn cael effaith ar ganlyniadau addysg plant ac y byddai’n well gwario’r arian ar ddatblygiad proffesiynol athrawon.

Ond mae Rolant Wynne wedi dweud “nad oes pwrpas” datblygu athrawon, os yw meintiau eu dosbarthiadau’n rhy fawr.

Bu golwg360 hefyd yn holi rhai o’r rhieni ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Fflint am eu barn nhw:

Polisi’r Democratiaid Rhyddfrydol

Roedd gostwng maint dosbarthiadau’n un o brif addewidion y Democratiaid Rhyddfrydol cyn etholiadau’r Cynulliad, a arweiniodd at benodi cyn-arweinydd y blaid, Kirsty Williams yn Ysgrifennydd Addysg yn llywodraeth leiafrifol Llafur.

Roedd hefyd yn un o’r polisïau y bu’n rhaid cyfaddawdu yn ei gylch wrth dderbyn arweinydd y Democratiaid i grombil y llywodraeth wedi iddi gefnogi enwebiad Carwyn Jones i fod yn Brif Weinidog.

Roedd maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi neilltuo £42 miliwn ar gyfer y polisi, gan ddadlau bod mwy na hanner y dosbarthiadau babanod yn rhy fawr.

Roedd y farn ar y maes yn gymysg, gyda rhai rhieni yn credu byddai’n fanteisiol i’r plant ac eraill yn credu byddai’n well petai’r polisi’n ymestyn i weddill y system addysg, yn hytrach na’r Cyfnod Sylfaen yn unig.