Llun: Nikita2706 CCA3.0)
Mae llai nag un o bob pump o bobol yn smygu erbyn hyn, yn ôl canlyniadau diweddara’ arolwg iechyd cenedlaethol.

Fe fuodd yna ostyngiad o 7% yn ystod y 12 mlynedd diwetha’ ac, yn ôl Llywodraeth Cymru, mae hynny’n dangos eu bod yn cyrraedd eu targedau.

Yn ôl y mwy nag 16,000 o oedolion  a phlant a gymerodd ran yn Arolwg Iechyd Cymru 2015, 19% sy’n smygu erbyn hyn o gymharu â 26% yn 2003-4.

Targed y Llywodraeth oedd 20% erbyn 2016 ac 16% erbyn 2020.

Canmol y cyhoedd

Mae peth o’r clod am y gostyngiad i raglen i annog pobol ifanc i beidio â dechrau smygu ac i gynghori smygwyr hŷn, yn ôl Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans.

Roedd pobol Cymru hefyd wedi cofleidio’r newid mewn diwylliant trwy droi yn erbyn smygu, meddai.

Problemau eraill

Ond roedd yna rybuddion bod agweddau eraill ar iechyd yn aros yn broblem:

  • Roedd 40% o oedolion wedi yfed mwy na’r lefel sy’n cael ei argymell o leia’ un diwrnod yn yr wythnos cyn i’r holi ddigwydd a 24% yn cydnabod eu bod yn cael hyrddiau yfed.
  • Dim ond 31% o oedolion oedd wedi gwneud ymarfer corff ar bum niwrnod yn yr wythnos gynt.