Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod mewn ardal goediog yn Wrecsam neithiwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r ardal ger eglwys Capel y Groes ym Modhyfryd am 10yh nos Fawrth, 31 Mai lle cafwyd hyd i gorff dyn 34 oed.

Er i barafeddygon geisio ei achub bu farw yn y fan a’r lle.

Nid yw’r heddlu’n gwybod beth yw amgylchiadau ei farwolaeth hyd yn hyn ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r Gogledd ar 101 gan nodi’r cyfeirnod U079220.