Alun Thomas, pennaeth elusen Hafal (Llun yr elusen)
Fe ddylai cyrff gofal sy’n methu â chadw at ddeddfau salwch meddwl roi’r gorau i gynnig gwasanaethau o’r fath, yn ôl pennaeth elusen Hafal.

Ac fe awgrymodd Alun Thomas hefyd y gallai cael un Ymddiriedolaeth Iechyd Meddwl i Gymru fod yn ateb.

Roedd yn ymateb i ymholiadau gan y BBC i adroddiad annibynnol am farwolaeth dyn ifanc o Gaerdydd.

‘Marwolaeth ddiangen’

Mae’r adroddiad yn dweud na fyddai Chris Wood, 25 oed, wedi marw pe bai wedi cael cydlynydd gofal ar ôl i’w deulu geisio’n gyson am help gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd.

Roedd gan Chris Wood broblemau personoliaeth ac roedd wedi ceisio niweidio’i hun yn gyson yn y blynyddoedd cyn iddo ladd ei hunan.

Yn ôl Alun Thomas, roedd elusennau fel Hafal, sy’n arbenigo ar iechyd meddwl, wedi cael llond bol ar gyrff gofal yn dweud eu bod “wedi dysgu gwersi” ar ôl adroddiadau o’r fath.

“Digon yw digon,” meddai ar Radio Wales, gan ddweud bod rhaid i gyrff gadw at y gyfraith tros iechyd meddwl neu roi’r gorau i gynnig gwasanaethau a throsglwyddo’r gwaith i gyrff sy’n gallu gwneud.

“Mae gyda ni rai gwasanaethau ardderchog yng Nghymru a rhai gwael iawn,” meddai wedyn gan ddweud y bydden nhw’n ystyried y syniad o un Bwrdd Iechyd cenedlaethol, os dyna oedd yr ateb gorau.