Bocs Rhoddion i Syria, yn Eisteddfod Urdd Sir y Fflint
Bydd mudiad Pobl i Bobl yn casglu bwydydd sych ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint eleni er mwyn eu hanfon at bobol sydd mewn angen yn Syria.

Y bwriad yw anfon cynhwysydd 40 troedfedd yn llawn bwyd, nwyddau meddygol, esgidiau, sachau cysgu a dillad i’r wlad yng nghanol y rhyfel cartref yno.

Mae’r mudiad yn annog ymwelwyr y maes i ddod i Tipi Syr IfanC ym Mhentre’r Urdd i gynnig bagiau reis, poteli o olew a bwydydd tun.

Bydd y nwyddau yna’n gadael Llanberis am Syria ar 16 Gorffennaf.

Mae’r mudiad yn un newydd a gafodd ei sefydlu yn 2015 mewn ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid yn Ewrop, sydd wedi gweld tua 4.8 miliwn o bobol Syria yn ffoi o’u gwlad.

Yn ôl Pobl i Bobl, mae’n anodd i bobol sy’n dal i fyw yn y wlad ddod o hyd i fwyd, gyda phrisiau bwyd yno wedi codi’n aruthrol ers dechrau’r rhyfel cartref.

Mewn rhai ardaloedd, meddai’r elusen, mae bag 1kg o reis yn gallu costio hyd at $100.

Sgwrs am yr argyfwng ar y maes

 

Bydd Catrin Wager, Cadeirydd Pobl i Bobl, yn rhan o banel fydd yn trafod sefyllfa’r ffoaduriaid yng nghwmni Casia Wiliam o Oxfam yn Tipi Syr IfanC, Ddydd Iau, 2 Mehefin am 1 y prynhawn.

“Dwi’n meddwl fod gan Gymru draddodiad teyrngarol a heddychlon; mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn neges heddwch yr Urdd, a’r ffaith ei fod wedi bod yn cael ei rannu ers bron i gan mlynedd rŵan,” meddai.

“Mae’r rhyfel yn Syria yn hunllefus, da ni di gweld yn yr wythnosau dwytha’ ysbytai plant a gwersylloedd ffoaduriaid yn cael eu targedu – pobl hollol ddiniwed sydd yn dioddef yn sgil ymosodiadau fel hyn.”

Mae modd ‘Siopa i Syria’ hefyd, drwy archebu nwyddau ar-lein a’u hanfon yn syth i Pobl i Bobl.