Dyluniad artist o Ganolfan Ddiwylliannol Aberhonddu (Llun: Cyngor Sir Powys)
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau y bydd y gwaith i ddatblygu canolfan ddiwylliannol newydd i Aberhonddu yn dechrau’r haf hwn.

Mae’r gwaith yn cynnwys adnewyddu amgueddfa ac oriel y dref sy’n adeilad rhestredig gradd 2 a’i droi yn ganolfan ddiwylliannol sy’n cynnwys llyfrgell newydd, adnoddau addysgiadol a chymunedol a chanolfan ymwelwyr.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo’r cynlluniau i ddechrau’r gwaith ynghyd â chynyddu cyfraniad y cyngor o £500,000 ychwanegol i’r prosiect.

‘Hwb mawr’ i Aberhonddu

Yn ôl y Cynghorydd Graham Brown: “Mae penderfyniad y Cyngor i ailddatgan eu hymrwymiad i’r prosiect cyffrous hwn yn mynd i ddarparu hwb mawr i Aberhonddu a’r ardal gyfagos.”

Mae’r cynllun wedi derbyn cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, ac mae’r Cyngor wedi cydweithio ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wrth ddatblygu’r prosiect.

“Fe fydd mwy o fuddiannau i’r gymuned wrth i’r datblygiad gefnogi masnachwyr lleol a chreu cyfleoedd am brentisiaethau fydd yn hybu’r economi leol,” ychwanegodd y cynghorydd.

“Bydd Canolfan Ddiwylliannol Aberhonddu yn darparu’r adnoddau diwylliannol cyhoeddus o’r radd flaenaf i drigolion Powys,” meddai.