Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn 18 oed wedi marw ar ôl disgyn oddi ar Draphont ddŵr Pontcysyllte, Llangollen.

Cafodd y digwyddiad ei adrodd i’r heddlu tua 01.05yb fore dydd Llun, Mai 31.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau â’u hymchwiliadau, ac mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r heddlu ar 101.