Cheryl James
Wrth i gwest i farwolaeth milwr ifanc o Langollen ddirwyn i ben yr wythnos hon, mae galwadau o’r newydd i archwilio cyfres o honiadau o gam-drin rhywiol a chorfforol ym marics Deepcut, Surrey rhwng 1995 a 2002.

Cafwyd hyd i gorff y Preifat Cheryl James, 18 oed, ym Marics Deepcut yn Swydd Surrey yn 1995.

Roedd hi’n un o bedwar milwr a fu farw yng ngwersyll y fyddin rhwng 1995 a 2002, gan gynnwys Sean Benton, James Collinson a Geoff Gray.

Mewn rhaglen arbennig o Week In Week Out heno, fe fydd teulu Cheryl James yn trafod eu hymgyrch i alw am ail gwest i’w marwolaeth, ac fe fydd yr Aelod Seneddol dros Ben-y-bont ar Ogwr, Madeleine Moon, yn galw am “ail-archwilio’r ffeil o honiadau.”

‘Cyfiawnder’

 

Ar y rhaglen, fe fydd yr AS sy’n rhan o Bwyllgor Dethol Amddiffyn Tŷ’r Cyffredin yn cyfeirio at y ffeil a baratowyd gan Heddlu Surrey yn 2002, pan ail-ymchwiliodd swyddogion i farwolaethau pedwar o filwyr ifanc yn y gwersyll ac a amlygwyd yn Adroddiad Blake 2006.

Er hyn, dyw’r cwest i farwolaeth Cheryl James o Langollen ddim wedi ystyried “y diwylliant ehangach o gam-drin rhywiol” yn y barics.

Ond, yn ôl Madeleine Moon, os oes tystiolaeth arall “wedi’i roi mewn bocs ar silff a’u bod wedi cerdded oddi wrtho, yna does dim cyfiawnder wedi’i gyflawni i neb.

“Dyma’r amser a’r lleoliad y gallwn ni fynd yn ôl iddo, a gweld beth ddigwyddodd.”

Dywedodd y BBC nad oedd y Fyddin na Heddlu Surrey wedi ymateb ar gyfer y rhaglen, ond bod datganiad gan y Fyddin yn nodi bod marwolaeth Cheryl James wedi cael “effaith ddofn” ar sut maen nhw’n ystyried eu dyletswydd i ofalu am filwyr.

Ychwanegodd y datganiad bod Ofsted bellach yn cynnal arolygiadau annibynnol o’u safleoedd, ac wedi’u nodi yn ‘dda’ neu’n ‘rhagorol’ yn ddiweddar.

‘Llwybr i eraill’

Mae disgwyl i’r crwner, Brian Barker QC, gyhoeddi ei gasgliadau i farwolaeth Cheryl James, 18 oed, o Langollen ddydd Gwener (Mehefin 3).

Roedd y cwest gwreiddiol i’w marwolaeth wedi cofnodi rheithfarn agored, ond fe ymgyrchodd ei rhieni, Des a Doreen James am wrandawiad newydd lle clywodd y llys gan 109 o dystion dros gyfnod o dri mis.

Yn y rhaglen, mae’r rhieni’n disgrifio eu hymdrech, gyda Doreen James yn dweud: “Os eich plentyn chi sydd yna, fyddwch chi’n brwydro tan y diwedd. Dw i’n gobeithio y bydd hyn yn cynnig llwybr i’r rhieni eraill.

“Mae angen iddyn nhw wybod fod help ar gael, a byddan nhw’n cael cyfiawnder yn y diwedd.”

Bydd Deep Cut: A Family’s Fight For The Truth yn cael ei darlledu heno ar BBC One Wales am 10.40yh.