Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i ddiflaniad merch 16 oed o’r Coed Duon.

Dywed yr heddlu bod diflaniad Chavika Akehurst yn destun pryder iddyn nhw.

Cafodd ei gweld ddiwethaf am 8.15 nos Sadwrn gan ofalwyr yn y Coed Duon pan adawodd hi ei chartref.

Mae hi’n cael ei disgrifio fel merch â chroen gwyn, 5’1″ ac o gorffolaeth fawr. Mae ganddi wallt brown sydd wedi’i rannol liwio’n olau.

Roedd hi’n gwisgo siaced Parker lliw caci, siaced goch, siwmper ddu, legins duon ac esgidiau Nike, ac roedd hi’n cario sach gefn goch/mwstard a bag plastig.

Mae timau arbenigol yn arwain yr ymchwiliad, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.