Mae Pen Cymru wedi enwebu Robin Ganderton ar gyfer gwobr Lleisiau Newydd Pen Rhyngwladol yn 2017.

Mae Robin, a astudiodd lenyddiaeth yn Llundain a Chaerefrog, eisioes wedi cipio nifer o wobrau llenyddol, gan gynnwys gwobr Terry Hetherington ar gyfer awduron newydd, ac y mae hefyd wedi derbyn ysgoloriaeth gan Lenyddiaeth Cymru i weithio ar nofel sy’n seiliedig ar ei stori fuddugol, ‘In the Hearts of Green Birds’.

Cafodd stori Robin ei dewis gan y beirniaid Owen Sheers a Fflur Dafydd fel rhan o gystadleuaeth gan Pen Cymru, a chafodd Rhys Owain Williams a Natalie Holborow yn cael eu henwi yn ogystal fel awduron addawol dan 30.

Fe fydd stori Robin nawr yn mynd ymlaen i gystadlu am y wobr ryngwladol, tra bydd Rhys Owain Williams a Natalie Holborow yn cael y cyfle i fynychu cynllun ysgrifennu ‘Awduron ar Waith’ yng Ngwyl y Gelli yn 2017.

Dywedodd y beirniaid fod safon y gystadleuaeth hon yn uchel dros ben, a bod y genhedlaeth newydd o awduron newydd yng Nghymru yn gyffrous dros ben.