Daniel Craig ddim yn dychwelyd i rôl James Bond
Nid y cyhoedd fydd yn dewis yr actor nesaf i chwarae cymeriad James Bond, yn ôl y cyfarwyddwr ffilm Sam Mendes.

Gwnaeth Mendes annerch cynulleidfa yng ngŵyl lenyddol y Gelli Gandryll ddydd Sadwrn.

Dywedodd nad oedd y broses o ddewis yr actor i olynu Daniel Craig yn “ddemocratiaeth”.

Yn hytrach, y cynhyrchydd Barbara Broccoli fydd â’r gair olaf, meddai.

Daeth cadarnhad bellach mai hon fydd ffilm Bond olaf Mendes ar ôl iddo gyfarwyddo ‘Skyfall’ a ‘Spectre’.

Mae dyfalu mai Tom Hiddleston neu Jamie Bell fydd y Bond nesaf ar ôl i Daniel Craig gael ei gysylltu â nifer o ffilmiau eraill.