Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth am ddyn 30 oed o’r Alltwen ger Pontardawe sydd ar goll ers dydd Iau.

Dydy Liam Thomas Fleming ddim wedi cael ei weld ers 7 o’r gloch fore Iau pan adawodd ei gartref i fynd i’r gwaith.

Pan gafodd ei weld ddiwethaf, roedd yn gwisgo trowsus du a chrys golau.

Mae’n 5’7″ ac yn denau o ran corffolaeth.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.