Mae Acas wedi cyhoeddi canllawiau i weithwyr sy’n bwriadu cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i wylio gemau pêl-droed yng nghystadleuaeth Ewro 2016.

Bydd y gystadleuaeth yn dechrau ar 10 Mehefin ac yn para tan 10 Gorffennaf, gyda rhai gemau’n dechrau am 2 o’r gloch y prynhawn.

Mae’r canllawiau’n cynnwys cyngor i gyflogwyr a busnesau bychain i sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer ceisiadau am amser i ffwrdd o’r gwaith, cyfnodau salwch, y defnydd o wefannau cymdeithasol yn y gwaith a gwylio’r teledu yn y gweithle.

Mae Acas yn awgrymu y dylai cyflogwyr fod yn fwy hyblyg wrth i weithwyr ofyn am amser i ffwrdd yn ystod y gystadleuaeth ond maen nhw’n annog gweithwyr i gofio na fydd hi’n bosib cael amser i ffwrdd bob tro.

Cyngor Acas yw y dylid rhoi’r un sylw i ddigwyddiadau chwaraeon eraill yn y dyfodol hefyd gan nad yw pawb yn dilyn pêl-droed.

Maen nhw hefyd yn dweud y dylid monitro lefelau presenoldeb yn ystod y gystadleuaeth yn unol â pholisi cwmnïau unigol – gan gynnwys salwch neu brydlondeb y diwrnod ar ôl noson gemau.

Un o awgrymiadau eraill Acas yw y gallai cyflogwyr benderfynu ar oriau gwaith mwy hyblyg yn ystod y gystadleuaeth, neu y dylid ei gwneud yn haws i weithwyr gyfnewid shifftiau – neu gael mynediad i deledu yn y gwaith os nad yw hynny’n bosibl.

Maen nhw hefyd yn atgoffa pobol nad yw’n dderbyniol bod yn y gwaith o dan ddylanwad alcohol.

‘Osgoi cael cerdyn coch’

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd Acas, Syr Brendan Barber: “Mae twrnament Ewro 2016 yn ddigwyddiad cyffrous i lawer o gefnogwyr pêl-droed ond dylai staff osgoi cael cerdyn coch am ofynion neu ymddygiad afresymol yn y gweithle yn y cyfnod hwn.

“Mae angen i nifer o fusnesau gynnal lefel staffio arbennig er mwyn goroesi.

“Dylai fod gan gyflogwyr set syml o gytundebau yn eu lle yn y gweithle cyn y gic gyntaf er mwyn sicrhau bod eu busnesau’n parhau’n gynhyrchiol tra’n cadw’r staff yn hapus hefyd.

“Gall ein canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw helpu rheolwyr i gael y gorau o’u chwaraewyr yn eu tîm, trefnu eilyddion priodol os bydd angen ac osgoi ciciau cosb neu anfon pobol i ffwrdd heb gynllunio ar gyfer hynny.”