Enw ac arwyddion Saesneg yn unig sydd i un o’r datblygiadau mwyaf yng nghanol Caerdydd ers blynyddoedd.

‘Central Square’ yw’r unig enw ar ganolfan siopau anferthol y tu allan i orsaf ganolog y ddinas, a Saesneg yw iaith yr arwyddion sydd ynglŷn â’r datblygiad.

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith, sy’n protestio ar y safle heddiw, yn galw ar Gyngor Caerdydd i fabwysiadu polisïau cynllunio sy’n sicrhau lle amlwg i’r Gymraeg.

Meddai Carl Morris, cadeirydd Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith:

“Rydyn ni’n pryderu am y ffaith mae’r enw ‘Central Square’ sydd ar y datblygiad a’r arwyddion. Mae Cyngor Caerdydd yn clodfori budd y datblygiad yma felly dylen nhw dderbyn cyfrifoldeb am fethu sicrhau lle priodol i’r Gymraeg ym mhrifddinas Cymru.”

‘Codi cwestiynau’

“Mae hyn yn codi cwestiynau am agweddau a pholisïau cynllunio’r Cyngor, ac i ba raddau maen nhw’n gwerthfawrogi anghenion cymunedau lleol. Beth sy’n bwysicach i Gyngor Caerdydd: elw i gwmnïau datblygu anferth neu’r hyn sydd ei angen ar drigolion y ddinas?”

Gobaith y protestwyr yw ailadrodd llwyddiant y mudiad y llynedd yn ei ymgyrch i newid arwydd uniaith Saesneg gorsaf trenau Heol y Frenhines.