Michael Bryn Jones (llun gan Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio apêl o’r newydd am wybodaeth ynghylch dyn sydd wedi bod ar goll ers bron i ddeufis.

Cafodd Michael Bryn Jones, o Landudno, ei weld ddiwethaf ar gyffordd 11 (One Stop) ar yr A55 ar gyrion Bangor tua 5.45am ar 3 Ebrill.

Roedd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn ystod oriau mân y bore hwnnw.

Roedd yn gwisgo jîns glas, siaced las llachar gyda llewys glas tywyll a het wlân wen.

Meddai’r Prif Arolygydd Mark Armstrong, sy’n arwain yr ymchwiliad i’w ddiflaniad:

“Mae bron i ddeufis ers i Michael gael ei weld diwethaf, ac nid yw wedi cysylltu â neb, ac felly ni allwn olrhain ei symudiadau y tu hwnt i’r ardal hon o’r A55.

“Nid yw chwiliadau manwl sydd wedi’u cynnal gan y Cŵn Chwilio ac Achub (BIRD), y Llu Awyr Brenhinol, Gwylwyr y Glannau a hofrennydd yr Heddlu wedi dod o hyd i unrhyw wybodaeth newydd i’n helpu.”

“Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â theulu Michael, ac maent eisiau eu mab, brawd a ffrind adref.”

Fe ychwanegodd Brif Arolygydd Armstrong: “Hoffwn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth fyddai’n ein helpu ni i ddod o hyd i Michael, a sicrhau ei fod yn dod adref at ei deulu, i gysylltu â’r Heddlu ar 101 neu’r elusen Pobl ar Goll.”