Mae ail feddyg wedi’i chael yn ddieuog o ladd bachgen 12 oed yn anghyfreithlon.

Roedd Joanne Rudling, 46, o Gaerdydd, wedi cael ei chyhuddo o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd ar ôl i Ryan Morse, o Frynithel, Blaenau Gwent, farw o glefyd prin Addison.

Cafodd ei chyd-weithiwr, Lindsay Thomas, 42, o Dredegar, ei chanfod yn ddieuog o’r un cyhuddiad yr wythnos ddiwethaf.

Bydd gwrandawiad a rheithgor newydd nawr yn ystyried ail gyhuddiad yn erbyn Joanne Rudling, o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Roedd y meddygon wedi cael eu cyhuddo o beidio â gofyn digon o gwestiynau am gyflwr Ryan, cyn iddo farw ar 8 Rhagfyr 2012. Roedd y ddwy yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Dim digon o dystiolaeth

Roedd erlynwyr wedi cyfaddef nad oedd disgwyl i’r meddygon roi diagnosis o Glefyd Addison, ond fe ddylai rhywun fod wedi ymweld â Ryan Morse yn ei gartref neu ffonio 999 ar ôl i’w fam ffonio Meddygfa Abernant ar 7 Rhagfyr yn mynegi pryderon am iechyd ei mab.

Dywedodd y barnwr, Nicola Davies, nad oedd digon o dystiolaeth i ddwyn y cyhuddiadau yn eu herbyn.