Mae’r heddlu’n ymchwilio i gyfres o rybuddion ffug am fomiau wedi’u lleoli mewn ysgolion ar draws de Cymru’r wythnos hon.

Bu’n rhaid gwagio Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Caerdydd, Ysgol Gynradd Gwyrosydd, Abertawe, Ysgol Gynradd Dafen ac Ysgol St Michael, Llanelli, yn dilyn rhybuddion ffug.

Yn ôl Pennaeth Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn Llanelli, mae rhai rhieni o’r ardal wedi penderfynu cadw eu plant o’r ysgol yn dilyn y digwyddiadau.

“Mae hyn wedi cael effaith o godi braw ar bobol, ac ar ben hynny, mae wedi bod yn fwy o fraw i rieni,” meddai Gethin Thomas wrth golwg360.

Dywedodd fod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi llunio datganiad i rieni yn eu sicrhau bod eu “plant yn ddiogel yn yr ysgol” a bod gan “benaethiaid canllawiau i’w dilyn” pe bai achos yn y dyfodol.

“Mewn sefyllfa, fe fyddwn yn gadael yr ysgol yn union fel petai ni ar ddril tân, a mynd ar yr iard ac mae cytundeb wedi cael ei wneud gydag adeiladau lleol y gallwn ni mynd iddyn nhw,” ychwanegodd.

“Mae’n amlwg mai rhywun sy’n gwneud rhyw ddwlu yw e, ond eto allwn ni fyth a bod yn siŵr.”

“Difrifol iawn”

Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiadau ond bod “dim gwybodaeth ar hyn o bryd i awgrymu eu bod yn gysylltiedig â brawychiaeth”.

“Mae’r heddlu yn cymryd rhybuddion ffug yn ddifrifol iawn. Maen nhw’n dargyfeirio adnoddau’r heddlu ac yn tarfu ac achosi braw i’r cyhoedd.”

Mae digwyddiadau tebyg wedi bod mewn ysgolion yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd.