Criw'r cynllun Twf yn Y Rhyl.
Mae colli’r cynllun Twf, oedd yn cyflwyno’r Gymraeg i fabis a phlant bach a’u rhieni, yn mynd i gael “effaith niweidiol ar y nifer sy’n siarad Cymraeg” yn y gogledd ddwyrain.

Dyna neges un fam o Brestatyn ar drothwy protest yn Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint ddechrau’r wythnos nesaf.

Fis Mawrth daeth i’r amlwg fod y cynllun Twf yn dod i ben, a bod Llywodraeth Cymru am wario £200,000 yn llai ar drosglwyddo iaith ymysg rhieni newydd.

Dan y drefn newydd fe fydd y Mudiad Meithrin yn cael £500,000 i gynnal cynllun o’r enw ‘Cymraeg i Blant’.

Ond yn wahanol i’r hen drefn, ni fydd gweithgareddau i rieni ifanc a’u babis yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam, Gwynedd na Môn dan y cynllun ‘Cymraeg i Blant’.

Y llynedd roedd Rebecca Roberts adref gyda’i merch fach Ellie, sy’ bron yn ddwy erbyn hyn, ac yn mynychu gweithgareddau Twf yn Y Rhyl.

“I bobol sydd ddim wedi bod ar gyfnod mamolaeth a ddim wedi elwa o wasanaethau Twf, mae’n swnio fel rhywbeth mor fach,” meddai’r fam 30 oed.

“Ond mae o wedi cael dylanwad positif ar fywydau cymaint o famau dw i’n ‘nabod.

“Ac mae’n bwysig achos mae o wedi annog gymaint ohonyn nhw i ailgydio yn y Gymraeg ar ôl mynd trwy addysg Gymraeg.

“Mae o wedi eu hannog nhw i ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant.

“Mae’n awyrgylch gwbl groesawgar felly mae rhieni sy’n dysgu’r Gymraeg yn teimlo’n ddigon hyderus i roi cynnig ar siarad Cymraeg gyda’u plant nhw, ac efo swyddogion a mamau eraill.

“Ac mae sawl un wedi dweud: ‘Without Twf, I wouldn’t have learnt Welsh. It’s a pity we’re loosing this service just when I feel I’m benefiting from it’.”

Ymateb y Llywodraeth

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru:

“Mae trosglwyddo iaith o fewn y teulu yn parhau yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Bydd rhaglen Cymraeg i Blant yn gweithredu ar lefel genedlaethol o ran hyrwyddo negeseuon am drosglwyddo iaith, a byddwn yn parhau i gydweithio â nifer o bartneriaid i sicrhau hyn.”

Mae tua 500 wedi arwyddo deiseb Cymdeithas yr Iaith yn galw am adfer y cynllun Twf, ac mi fydd yna brotest am un wrth stondin Cymdeithas yr Iaith am un b’nawn Llun nesaf ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Mwy am hyn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.